  {"id":8495,"date":"2019-12-09T12:50:26","date_gmt":"2019-12-09T12:50:26","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/who-we-are\/"},"modified":"2026-01-12T11:53:33","modified_gmt":"2026-01-12T11:53:33","slug":"who-we-are","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/governance\/who-we-are","title":{"rendered":"Governance &#8211; Who we are"},"content":{"rendered":"<section class=\"masthead bg-yellow bg-pattern-accent bg-pattern-forward block-text-pos\">\n    <div class=\"masthead__inner\">\n        <div class=\"masthead__text fade-in\">\n            <div class=\"block-text accent-yellow\">\n                <div class=\"block-text__body\">\n                    <h1 class=\"display-1\">\n                        <strong>Llywodraethiant <em>Pwy ydym ni<\/em>\n<\/strong>\n                    <\/h1>\n                <\/div>\n            <\/div>\n\n                    <\/div>\n\n            <\/div>\n    <div class=\"masthead__image shape-1\">\n                                    <picture>\n                    <source\n                        sizes=\"100vw\"\n                        srcset=\" https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/governance-masthead-mobile.jpg 860w\"\n                        media=\"(max-width: 768px)\"\n                    >\n                    <source\n                        sizes=\"100vw\"\n                        srcset=\" https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/governance-masthead-desktop.jpg 1210w,\"\n                    >\n                    <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/governance-masthead-desktop.jpg\" alt=\"Three staff talking at governance meeting\">\n                <\/picture>\n                        <\/div>\n<\/section>\n\n\n\n<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14 globalContent_sub_title_nomargin\">Bwrdd Corfforaeth<\/h2>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Gadeirydd - Sue Ball<\/h3>\n<p>Mae Sue wedi bod yn Llywodraethwr ers 2018 a gwasanaethodd fel Is-gadeirydd o 2020 nes i\u2019r Cadeirydd blaenorol ymddeol ym mis Gorffennaf 2025. Mae hi\u2019n angerddol am bwysigrwydd addysg, hyfforddiant a chydweithio effeithiol i fynd i\u2019r afael ag anghenion sgiliau cyflogwyr. Wedi iddi ymddeol o\u2019i r\u00f4l fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae hi\u2019n parhau i ymgymryd \u00e2 gwaith ymgynghori ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac mae\u2019n cadeirio gwrandawiadau addasrwydd i weithio ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Vice Chair &#8211; Chris Freegard OBE<\/h3>\n<p>Ymunodd Chris \u00e2 Bwrdd 女优阁 yn 2010 gan wasanaethu am ddau dymor. Yn dilyn newid mewn amgylchiadau, ail-ymunodd \u00e2\u2019r Bwrdd yn 2020. Ymddeolodd o\u2019i swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd yn 2009 ac mae wedi dal nifer o rolau ar Fyrddau ers hynny, gan gynnwys gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Kaleidoscope, elusen camddefnyddio sylweddau a gwasanaethu fel Llywodraethwr Prifysgol De Cymru tan fis Gorffennaf 2020. Ar hyn o bryd, Chris yw Cadeirydd Pwyllgor Archwilio\u2019r Bwrdd.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Pennaeth\/Prif Weithredwr - Nicola Gamlin<\/h3>\n<p>Dechreuodd Nikki yn ei r\u00f4l fel Pennaeth a Phrif Weithredwr 女优阁 ym mis Medi 2024, gan wasanaethu\u2019n flaenorol ers 16 o flynyddoedd fel Is-bennaeth\/Dirprwy Bennaeth \u00e2 chyfrifoldeb am y Cwricwlwm ac Ansawdd. Mae ei gyrfa 30 o flynyddoedd ym maes Addysg Bellach wedi cynnwys dros 20 o flynyddoedd mewn rolau uwch-arweinyddiaeth yn ogystal \u00e2 rolau\u2019n addysgu cyfrifiadureg, TG, busnes a mathemateg ar lefelau gwahanol. Mae hi hefyd yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Anthony Basnett<\/h3>\n<p>Mae gan Baz dros 30 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg electronig a bu\u2019n gwasanaethu am 17 mlynedd yn Lluoedd Ei Fawrhydi. Mae e\u2019n Gyfarwyddwr a Pheiriannydd Datrysiadau ar gyfer cwmni technoleg ddigidol mawr yn dilyn nifer o flynyddoedd fel Pennaeth Systemau Peirianneg yn CISCO UK. Mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd y Ganolfan Arddangos Rhwydwaith P\u0175er, sy\u2019n rhan o Brifysgol Strathclyde. Mae Baz yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau y Bwrdd.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Moawia Bin-Sufyan<\/h3>\n<p>Mae Moawia yn gweithio ym maes buddsoddiadau a datblygiad eiddo, ochr yn ochr \u00e2 hynny, mae\u2019n cyflawni nifer o rolau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol. Mae\u2019r rolau hyn yn cynnwys monitro gwasanaethau iechyd a chyflyrau carchardai a charcharorion a chynghori yngl\u0177n ag amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Moawia hefyd yn Ynad Heddwch ac yn Uwch Aelod Annibynnol o\u2019r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a Sifil yng Nghymru. Mae\u2019n Lifreiwr yng Nghwmni Anrhydeddus yr Addysgwyr ac mae wedi derbyn gwobr Rhyddid Dinas Llundain.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">James Bird<\/h3>\n<p>Ymunodd James \u00e2\u2019r Bwrdd ym mis Ionawr 2025. Mae\u2019n Gyfrifydd Siartredig ac mae wedi gweithio mewn rolau uwch ym meysydd Cyllid a Gweithrediadau yn y sectorau gweithgynhyrchu a logisteg. Yn ei r\u00f4l ddiweddaraf, datblygodd angerdd am weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a cholegau i ddatblygu dawn fewnol. Mae James bellach wedi ymddeol ac mae\u2019n awyddus i ddefnyddio ei sgiliau a\u2019i brofiad er budd 女优阁.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Elizabeth Brimble<\/h3>\n<p>Liz yw\u2019r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Diogelu. Enillodd Liz ei chymwysterau yn y gweithle ar \u00f4l gadael yr ysgol yn un ar bymtheg oed, ac mae hi wedi ymrwymo i bwysigrwydd cynnig dewis mewn addysg a hyfforddiant. Gweithiodd yn y sector gwasanaethau ariannol, ac mae wedi treulio amser fel swyddog sifil gyda Chanolfan Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Cyn iddi ymddeol, gweithiodd Liz yng Nghyngor y Gweithlu Addysg fel Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru ac Addasrwydd i Ymarfer.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Andrew Clark<\/h3>\n<p>Mae Andrew yn cynnig dealltwriaeth fanwl o\u2019r sector addysg bellach yng Nghymru i\u2019r Bwrdd. Gan feddu ar gefndir ym maes cyllid a chyfrifyddu, roedd ganddo yrfa hir gyda Llywodraeth Cymru lle\u2019r oedd ei rolau diweddaraf yn cynnwys arwain ar gyflogadwyedd, gyrfaoedd a pholisi addysg bellach. Andrew yw\u2019r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Delyth Evans<\/h3>\n<p>Mae Delyth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf a dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes. Aeth ymlaen i weithio fel ysgrifennwr areithiau gwleidyddol ac, yn hwyrach, gwasanaethodd fel Aelod Cynulliad am dair blynedd. Mae Delyth wedi gweithredu mewn r\u00f4l Prif Weithredwr ar gyfer dwy elusen ac fel ymgynghorydd polisi a strategaeth. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Chwaraeon Cymru, yr Urdd a\u2019r Sefydliad Alacrity, sef elusen addysg sy\u2019n darparu hyfforddiant entrepreneuriaeth ar gyfer graddedigion ifanc mewn technoleg. Yn 2025, penodwyd Delyth yn Gadeirydd S4C.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Bailjit Gill<\/h3>\n<p>Bal yw\u2019r Uwch-reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Nh\u0177\u2019r Cwmn\u00efau. Mae wedi gweithio ym maes cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol ers dros 23 o flynyddoedd, gan gynnwys rolau yn Llywodraeth Cymru, Swyddfa\u2019r Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a\u2019r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mae\u2019n byw yng Nghasnewydd ac, yn flaenorol, bu\u2019n Llywodraethwr Ysgol ac yn Ymddiriedolwr o raglen Pobl yn Gyntaf Torfaen. Bal yw\u2019r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Andy Johns<\/h3>\n<p>Ymunodd Andy \u00e2\u2019r Bwrdd ym mis Ionawr 2025. Mae\u2019n meddu ar dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y sector addysg yng Nghymru, yn ddiweddarach, fel Is-bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd) mewn coleg cyfagos. Mae Andy bellach wedi ymddeol ac mae\u2019n eistedd ar Baneli Addasrwydd i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg ac mae\u2019n Aelod o Gyd-bwyllgor Archwilio Heddlu Gwent. Mae e hefyd yn gwirfoddoli gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys T\u0177 Hafan a Run4Wales.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">John Phelps<\/h3>\n<p>Cychwynnodd John ei yrfa fel peiriannydd prentis gan weithio yn y diwydiant cyn ail-hyfforddi fel athro. Bu\u2019n gweithio ym maes addysg am dros ddeng mlynedd ar hugain a threuliodd lawer o\u2019r amser hwnnw yn y sector addysg bellach. Roedd yn Is-bennaeth yn Coleg y Cymoedd am ddeng mlynedd, gyda chyfrifoldeb am y wricwlwm a datblygu ansawdd. Ers ymddeol, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd a chynghorydd addysgol hunangyflogedig. John yw\u2019r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Iechyd a Diogelwch.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Boyd Paynter<\/h3>\n<p>Etholwyd Boyd i wasanaethu fel Myfyriwr-Lywodraethwr dros Addysg Bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26. Mae e\u2019n astudio ar gyrsiau Safon Uwch ym Mharth Dysgu Torfaen ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth. Mae Boyd yn angerddol am sicrhau cynrychiolaeth gryf gan y gymuned a gan bobl ifanc. Caiff hyn ei adlewyrchu gan ei weithredu ei hun ac, ar hyn o bryd, mae\u2019n gwasanaethu fel Dirprwy Arweinydd Fforwm Ieuenctid Torfaen ac fel aelod o Bwyllgor Cyllidebu Cymdeithas Wirfoddol Torfaen.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Tim Rathbone<\/h3>\n<p>Ymunodd Tim \u00e2\u2019r Bwrdd ym mis Ebrill 2024. Mae wedi cwblhau cylch llawn ar \u00f4l dechrau ei yrfa fel Prentis Trydanwr yng Nghampws Pont-y-p\u0175l y coleg yn y 1980au. Yn Beiriannydd Siartredig, fe ymddeolodd Tim yn ddiweddar o\u2019i r\u00f4l fel Uwch-Bartner a Chyfarwyddwr mewn cwmni Peirianneg Ymgynghorol lle bu\u2019n gweithio ers dros 30 o flynyddoedd. Mae bellach yn awyddus i gyfrannu at lwyddiant 女优阁. Mae e\u2019n Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac mae ganddo ddiddordeb cryf mewn cynaliadwyedd. Tim yw\u2019r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Datblygu\u2019r Yst\u00e2d a Datgarboneiddio.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Lizzie Swaffield<\/h3>\n<p>Lizzie yw Cadeirydd y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd. Mae hi\u2019n siarad Cymraeg ac yn dod \u00e2 phrofiad helaeth o\u2019r sector cyhoeddus ehangach i\u2019r Bwrdd, yn benodol, mewn perthynas \u00e2 gweithio mewn partneriaeth. Ar hyn o bryd mae\u2019n gweithio i elusen addysgol ac, yn flaenorol, mae wedi dal rolau gyda Cymwysterau Cymru, Prifysgol Cymru\u2019r Drindod Dewi Sant, Rhaglen Addysg Blaenau\u2019r Cymoedd a llywodraeth leol.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Huw Watkins<\/h3>\n<p>Etholwyd Huw yn Fyfyriwr-lywodraethwr ar gyfer Addysg Uwch ym mis Rhagfyr 2024. Mae e\u2019n astudio ar y cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Gemau wedi iddo gwblhau ei gymhwyster Lefel 3. Mae e\u2019n dymuno sicrhau bod lleisiau\u2019r dysgwyr Addysg Uwch yn y coleg yn cael eu clywed. Yn ei amser sb\u00e2r, mae Huw yn hoffi cadw\u2019n heini ac mae\u2019n gweithio\u2019n rhan-amser fel cynorthwy-ydd campfa.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Joanne Weaver<\/h3>\n<p>Etholwyd Jo fel Llywodraethwr Staff Cymorth Busnes ym mis Rhagfyr 2024. Mae hi wedi gweithio i 女优阁 ers dros 17 o flynyddoedd ac, yn ei rol bresennol fel Rheolwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, mae\u2019n gweithio\u2019n agos gyda thimau ar draws y coleg i gyflenwi gwasanaethau allweddol ac i gefnogi digwyddiadau\u2019r coleg. Mae Jo yn gyd-berchennog ar gaffi llwyddiannus a busnes arlwyo ac mae\u2019n Rheolwr T\u00eem ac yn aelod pwyllgor t\u00eem rygbi dan 10 oed.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14 globalContent_sub_title_nomargin\">Aelodau Cyfetholedig Allanol<\/h2>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Farishna Chohan-Solanki<\/h3>\n<p>Ymunodd Farishna \u00e2 ni fel Aelod Allanol o\u2019r Pwyllgor Archwilio ym mis Ebrill 2023. Mae\u2019n Rheolwr Cyllid ac mae\u2019n gyfrifol am feysydd risg, rheoli, llywodraethu a rheoleiddio. Hefyd, mae ganddi brofiad o weithio fel archwilydd yn y sector addysg ac mae\u2019n gyd-berchennog\/Cyfarwyddwr busnes teulu mewn podiatreg.<\/p>\n<h3 class=\"contentImage_row_content_title fs_27 fs_bold\">Richard Brown<\/h3>\n<p>Yn flaenorol, mae Richard wedi gwasanaethu fel Llywodraethwr rhwng 2016 a 2018. Wedi iddo gamu i lawr oherwydd pwysau gwaith, mae e\u2019n hapus i fod yn \u00f4l yn 女优阁 fel Aelod Allanol o\u2019r Pwyllgor Archwilio. Mae e\u2019n Brif Swyddog Cyllid ar gyfer Asiantaeth Llywodraeth fawr ac mae\u2019n meddu ar brofiad helaeth ym meysydd cyllid a masnach. Mae Richard hefyd yn gwasanaethu fel Trysorydd ac Ymddiriedolwr eglwys leol.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14 globalContent_sub_title_nomargin\">Swyddog Llywodraethu<\/h2>\n<h3 class=\"contentImage_row_image\">Marie Carter<\/h3>\n<p>Mae Marie wedi bod yn Swyddog Llywodraethu ers mis Mehefin 2015. Hi sy\u2019n gyfrifol am weithredu\u2019r Bwrdd o ddydd i ddydd, gan roi cyngor iddo ar weithdrefn a pholisi, trefnu a chofnodi cyfarfodydd a chadw cofnodion. Mae hi hefyd yn gweithredu fel Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i\u2019r Coleg. Mae Marie wedi gweithio yn 女优阁 ers 2008, mewn swyddi cefnogi dysgwyr a swyddi addysgu yn y gorffennol. Cyn hynny, roedd ganddi yrfa yn y Gwasanaeth Sifil a oedd yn cynnwys sawl blwyddyn fel Clerc i bwyllgor cynghori\u2019r Llywodraeth yn Llundain.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":13,"featured_media":13415,"parent":8296,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-8495","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8495","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8495"}],"version-history":[{"count":20,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8495\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36339,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8495\/revisions\/36339"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8296"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13415"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8495"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}