Yn gryno
Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio Adobe Photoshop a鈥檌 lawer o swyddogaethau er mwyn creu cynnwys cyffrous i鈥檞 ddefnyddio ar wefannau, y cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy.
...pawb - Nid yw Photoshop ar gyfer ffotograffwyr yn unig!
...unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn creu eu lluniau eu hun o鈥檙 newydd ac addasu ffotograffau
...unrhyw un sydd eisiau cael gwybod beth yw Photoshop a sut i鈥檞 ddefnyddio
Mae sgiliau Photoshop yn gynyddol ddefnyddiol mewn amrywiaeth o swyddi, a bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn gallu golygu ac addasu ffotograffau yn effeithiol, a chreu delweddau deniadol eich hun gartref neu yn y gwaith. Maen nhw鈥檔 sgiliau defnyddiol os ydych yn bwriadu gwella eich CV.
Bydd pob sesiwn 2 awr yn cyflwyno amrywiaeth o nodweddion Photoshop a鈥檙 technegau i鈥檞 defnyddio. Yna bydd tasg yn y dosbarth gan ddefnyddio鈥檙 dechneg hon, er mwyn cael deilliant ymarferol gyda chymorth gan diwtoriaid unigol.
Bydd pob delwedd yn cael ei chyflenwi i鈥檞 defnyddio yn y dosbarth, ond fe fyddwch chi鈥檔 cael eich annog i ddod 芒鈥檆h lluniau eich hun hefyd. Argymhellir eich bod yn dod 芒 ffon USB neu yriant caled symudol i arbed eich delweddau gorffenedig a mynd 芒 nhw gartref.
Gall y cwrs hwn gynnwys
-
Cyflwyniad i ryngwyneb Adobe Photoshop
-
Fformatau ffeiliau lluniau
-
Y pecyn cymorth
-
Archwilio鈥檙 oriel hidlwyr
-
Brwshys a sut i greu un eich hun
-
Camau Gweithredu a Dethol
-
Cywiro a mireinio delweddau
-
Gweithio gyda haenau a masgiau
-
Testun
-
Arbed i鈥檞 ddefnyddio ar-lein
-
Animeiddiadau cyflym
-
Torri, newid maint a chop茂o
Does dim asesiad ffurfiol yn rhan o鈥檙 cwrs.
Bydd disgwyl i chi gael gwybodaeth sylfaenol o gyfrifiaduron er mwyn cofrestru ar gyfer y cwrs.
Does dim angen i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o Adobe Photoshop gan fod y cwrs 10 wythnos hwn yn dechrau o鈥檙 dechrau. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth dda o dechnegau a phrosesau Photoshop.