Ůӟó

Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Gwasanaethau Cymorth

CG member of staff helping a learner with their work.

Eich cefnogi chi

Byddwn bob amser yn rhoi ein myfyrwyr yn gyntaf – ac mae hynny’n golygu ein bod yn rhoi pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y byddwch ei angen.

Staff smiling

Ar adeg mor bwysig yn eich bywyd a’ch gyrfa, bydd llawer o bethau’n newydd i chi a bydd gennych nifer fawr o gwestiynau i’w hateb. Felly yn Ůӟó, mae ein rhwydwaith cefnogi yno ar gyfer popeth – o gymorth gyda’ch cwrs i’ch llesiant personol.