Ein gwerthoedd
                Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni. Maent yn amlinellu’r hyn yr ydym yn sefyll drosto, sut ydym yn ymddwyn a’r pethau sy’n bwysig i ni.
Fel myfyriwr yng Ngholeg Gwent, mae’n bwysig eich bod chi’n cynnal y gwerthoedd hyn hefyd, tra byddwch chi yma, a gobeithio y tu hwnt i’ch amser gyda ni.
Ein Gwerthoedd Craidd
Beth ddylech chi ei wneud…
- Ceisio gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed ym mhob rhyngweithiad â chyd-weithwyr a dysgwyr
 - Gwrando ar gwestiynau ac ymateb heb ragfarn
 - Bod yn ymwybodol o, ac yn gyfrifol am, sut mae eich agwedd a’ch emosiynau yn gallu cael effaith ar bobl eraill
 - Cymryd amser i wrando ac ymdrechu i ddeall barn pobl eraill
 
Beth na ddylech ei wneud...
- Neidio i gasgliadau a gwneud rhagdybiaethau
 - Mynegi barn anadeiladol, negyddol neu bersonol am bobl eraill a’u barn
 - Dangos ffafriaeth
 - Annog neu gymryd rhan mewn hel clecs
 
Beth ddylech chi ei wneud…
- Cofleidio gweledigaeth a strategaeth y Coleg
 - Wynebu pob her yn gadarnhaol
 - Ymgysylltu â phawb i ganfod atebion
 - Mynd i’r afael â phroblemau ac ysgwyddo cyfrifoldeb
 
Beth na ddylech ei wneud...
- Anwybyddu problemau a gobeithio y byddant yn diflannu
 - Pasio’r bai i eraill
 - Derbyn bod yr ail orau yn iawn
 - Cau eich meddwl i syniadau gan bobl eraill
 
Beth ddylech chi ei wneud…
- Trin pob dysgwr gyda pharch ac fel unigolion
 - Ystyried yr effaith ar ddysgwyr wrth wneud pob penderfyniad
 - Cynnwys dysgwyr yn y penderfyniadau rydych yn eu gwneud
 - Gwerthfawrogi safbwynt ein dysgwyr – cydymdeimlo â nhw
 
Beth na ddylech ei wneud...
- Beio dysgwyr am y pethau rydym ni’n gyfrifol amdanynt
 - Blaenoriaethu anghenion gweithredol cyn anghenion y dysgwyr
 - Ymgymryd ag agwedd sydd ddim yn canolbwyntio ar y dysgwyr
 - Peidio â gwrando ar, a gweithredu ar, adborth y dysgwyr
 
Beth ddylech chi ei wneud…
- Bod yn deg, yn onest ac yn dryloyw
 - Bod yn batrwm i eraill
 - Delio â sgyrsiau a sefyllfaoedd anodd
 - Bod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy
 
Beth na ddylech ei wneud...
- Ymroi i ragfarn neu ffafriaeth
 - Anwybyddu sylwadau ac ymddygiad amhriodol gan eraill
 - Methu â gweithredu yn unol â’n holl werthoedd, hyd yn oed pan fo hynny’n anodd
 - Beio pobl eraill am bethau sy’n mynd o chwith