Academi'r Dreigiau
Croeso i Academi Rygbi Iau y Dreigiau
Ydych chi’n angerddol am rygbi ac yn dymuno cyfuno eich astudiaethau academaidd â’ch datblygiad rygbi? Yn Academi Rygbi Iau y Dreigiau, rydym wedi creu partneriaeth gyda’r Dreigiau i gynnig y cyfuniad perffaith o addysg a datblygiad rygbi i chi.
Mae ein hacademi wedi’i dylunio i’ch helpu chi i ddatblygu’r sgiliau corfforol, technegol, tactegol a seicolegol angenrheidiol er mwyn dod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Gan gynnig 16 awr o hyfforddiant ymroddedig bob wythnos gan hyfforddwyr profiadol y Dreigiau, cewch fynediad at gyfleusterau’r gampfa, cyngor ar faeth, sgiliau cyffwrdd, sgiliau digyffwrdd a sesiynau hyfforddiant un i un.
Rydym yn croesawu chwaraewyr o bob lefel ac mae dau dîm gyda ni. Mae ein tîm XV cyntaf yn cystadlu yng Nghynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru Undeb Rygbi Cymru a chaiff gemau wythnosol eu ffrydio’n fyw ac uchafbwyntiau eu cynnwys ar raglen S4C Rygbi Pawb. Mae’r ail dîm o XV yn adlewyrchu’r tîm cyntaf ac mae’n chwarae yn ei gynghrair ei hun.

Llwyddiannau
Mae gan ein hacademi hanes balch o lwyddiant, gan ennill Cynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru Undeb Rygbi Cymru ddwywaith, yn 2013 ac yn 2020. Rydym hefyd wedi cynhyrchu 52 o chwaraewyr rygbi rhyngwladol ar lefel oedran a thri chwaraewr rygbi rhyngwladol ar lefel genedlaethol, gan gynnwys Tyler Morgan, Elliot Dee, ac Ollie Griffiths.
Cyflawniadau Tymor 2024/25ÌýÌý
- Pencampwyr y Gynghrair – Cynghrair B Ysgolion a Cholegau Cymru.
- Dyrchafiad i gynghrair A gan gystadlu ar lefel uchaf rygbi coleg.
- 18 o chwaraewyr wedi’u dewis ar gyfer carfan dan 18 y Dreigiau.
- 5 chwaraewr wedi’u dewis ar gyfer carfan hyfforddiant Cymru dan 18 oed.
- 9 chwaraewr wedi ennill contract ar gyfer Academi’r Dreigiau.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o gymuned gefnogol a chynhwysol lle gallwch chi wireddu eich breuddwydion rygbi wrth ragori yn academaidd.
Cysylltiadau
I gael gwybod mwy am yr hyn y gall yr Academi ei wneud i chi, anfonwch e-bost atÌýrugbyacademy@coleggwent.ac.ukÌý
Matthew Jones
matthew.jones@coleggwent.ac.uk
Cyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac uwch chwaraewr rhyngwladol Cymru.
Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Matthew yw cydlynydd yr academi rygbi a phrif hyfforddwr yr Academi i ddynion, ac mae wedi bod yn gyflogedig yn Ůӟó ers 10 mlynedd.
Scott Matthews
scott.matthews@coleggwent.ac.ukÌý
Mae Scott yn gyn-fyfyriwr Ůӟó, yn chwaraewr proffesiynol ac yn chwaraewr rhyngwladol gradd oedran Cymreig. Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Scott yw hyfforddwr blaenwyr yr academi i ddynion ac mae wedi bod yn y swydd ers 6 blynedd.
Evan Lloyd
Astudiodd Evan yn Ůӟó ac roedd yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn y Dreigiau o 2018 i 2024. Enillodd gydnabyddiaeth ar lefel ryngwaldol ar gyfer carfannau Cymru dan 18 oed, dan 19 oed a dan 20 oed. Mae Evan yn cwblhau ei gwrs Hyfforddiant Undeb Rygbi Cymru Lefel 3 gan atgyfnerthu ei arbenigedd a’i ymroddiad i’r gamp ymhellach.
Steven Llewellyn
steven.llewellyn@coleggwent.ac.uk
Hyfforddwr ein rheolwr tîm a’n blaenwr cynorthwyol. Mae Steve, sy’n gymwys ar Lefel 3 yr URC, wedi trefnu teithiau rygbi unwaith-mewn-oes ar draws De Affrica, Seland Newydd, Hong Kong ac Awstralia. Darlithydd yn Ůӟó ers dros 26 mlynedd.
Gradd Sylfaen mewn Rygbi
Mae’r Academi Rygbi wedi ennill statws achrededig Prifysgol De Cymru gan alluogi cyflwyno Gradd Sylfaen PDC mewn Rygbi.