Llais y Dysgwr
                Dweud eich dweud...
Fel myfyriwr, byddwch yn cael y cyfle i ddweud eich dweud ar asesu a llunio eich profiad yn y coleg. Rydym yn credu’n gryf mewn gwrando ar ein dysgwyr – ac rydym wedi ennill sawl gwobr am gadw at hynny!
Cymryd Rhan
Mae lleisio eich barn yn ein cynorthwyo i newid yr hyn rydym yn gynnig i fyfyrwyr, ac rydym yn gwrando arnoch mewn sawl ffordd:
- Cynrychiolwyr dosbarth
 - Undeb y Myfyrwyr
 - Llywodraethwyr Myfyrwyr a Phartneriaethau Cymunedol
 - Aelodaeth myfyrwyr ar fyrddau coleg, pwyllgorau a grwpiau
 - Cynhadledd Llais y Dysgwr
 - Cash4Change – ble mae myfyrwyr yn gwneud cynnig am arian i wneud newidiadau i’w campws.