Cefnogaeth Pontio
Eich helpu i baratoi ar gyfer y coleg
Mae pontio yn golygu proses o newid, fel symud o鈥檙 ysgol i鈥檙 coleg. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn teimlo ychydig yn nerfus am newid ac mae symud o鈥檙 ysgol i鈥檙 coleg yn newid mawr. Ond cofiwch nid ydych ar eich pen eich hun, mae yna lawer o gefnogaeth ar gael yn 女优阁.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, Gyrfa Cymru ac unrhyw bobl eraill sy鈥檔 eich cefnogi, i ddeall eich anghenion a鈥檙 ffordd orau i鈥檆h cefnogi. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth orau, byddwn yn gofyn am dystiolaeth o鈥檆h anghenion cymorth dysgu a/neu anghenion meddygol/corfforol.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Os oes gennych Gynllun Datblygu Unigol (CDU), byddwn yn dod i鈥檆h adolygiad olaf yn yr ysgol. Mae鈥檔 syniad da i ofyn i Gydlynydd ADY eich ysgol i鈥檔 gwahodd ni. Yn eich adolygiad, gallwch ddweud wrthym beth sy鈥檔 bwysig i chi (nawr ac yn y dyfodol) a gallwn ddechrau cynllunio鈥檆h cyfnod pontio.
Gallwn gynllunio gweithgareddau trosglwyddo i鈥檆h helpu i ddod i adnabod y coleg fel eich bod chi鈥檔 gwybod beth i鈥檞 ddisgwyl cyn i chi ddechrau, a鈥檆h helpu i deimlo鈥檔 ddiogel ac yn hapus. Byddwn yn gwneud yn si诺r bod y staff sy鈥檔 gweithio gyda chi鈥檔 ymwybodol o鈥檆h anghenion cymorth er mwyn eich helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.