Gyrfaoedd a Dilyniant
                Eich cefnogi gyda'ch camau nesaf ar ôl y coleg
P’un a ydych chi’n ystyried mynd i’r brifysgol, cael swydd, ymgymryd â phrentisiaeth neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun, gall ein tîm Uchelgeisiau CG helpu.
Gall ein tîm o hyfforddwyr dilyniant gefnogi gyda cheisiadau UCAS, datganiadau personol a chyllid myfyrwyr yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd fel ysgrifennu CV, chwilio am swyddi a chanllawiau ar gyfer cyfweliadau i’ch paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Mae gennym hefyd hyrwyddwr menter a all eich cefnogi ar eich taith tuag at ddod yn entrepreneur, p’un a ydych newydd ddechrau neu’n edrych i dyfu eich busnes.
        Cyflogadwyedd, Menter ac Entrepreneuriaeth
Gall ein tîm CG Uchelgeisiau gynnig arweiniad a chyngor ar:
- Gynllunio ar gyfer gyrfa
 - Ysgrifennu CV
 - Thechnegau cyfweld
 
Rydym hefyd yn cynnig cymorth ar greu a datblygu syniadau busnes newydd a chynnig cysylltiadau â sefydliadau allanol i’ch helpu chi wneud y mwyaf o’ch profiad yma yn y coleg – boed hynny’n atgyfeirio cyfleoedd ariannu, profiad gwaith, interniaethau neu sgyrsiau gyda’r diwydiant.
Gallwch drefnu apwyntiadau 1:1 am brofiad mwy personol, gofyn am sesiwn grŵp, neu gallwn gwrdd â chi mewn dosbarth (yn dibynnu ar amserlen).
Ydych chi’n gweld eich hun fel y Richard Branson neu’r Arglwydd Sugar nesaf?
Mae llwyddiant busnesau bach a sefydliadau mawr yn dibynnu ar feddyliau arloesol a meddylwyr sionc. Felly fel rhan o’ch cwrs llawn amser, byddwn yn ceisio rhoi’r sgiliau a’r meddwl a fydd yn eich helpu i fod yn entrepreneur gwych!
Bydd hyn yn cynnwys:
- Dros 130 o arbenigwyr o’r diwydiant (siaradwyr gwadd) yn dod i sesiynau tiwtorial i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli myfyrwyr i ddechrau eu busnes eu hunain
 - Cystadlaethau entrepreneuriaeth – gan gynnwys Her Syniadau Mawr Cymru, Her y Farchnad Stoc, y Rhaglen Tafflab (i dderbyn cyllid a mentora)
 - Yr Wythnos Fenter Fyd-eang yn arddangos y gorau mewn dosbarthiadau meistr menter ac entrepreneuriaeth
 - Bod yn rhan o’r Prosiect Arloesi’r Cymoedd a chyfle i weithio gyda briffiau go iawn gydag ystod o fusnesau a sefydliadau
 - Tair her gyfoethogi – Menter a Chyflogadwyedd, Cymuned a Dinasyddiaeth
 - Cyfoethogi personol trwy CG Extra
 
Nod Ůӟó yw ceisio:
- Hwyluso uchelgais entrepreneuraidd a chefnogi busnesau myfyrwyr ar bob cam o daith eu busnes newydd
 - Annog cymuned y coleg i gynnig amgylchedd mentrus a chefnogol
 - Ysbrydoli myfyrwyr gyda chyfleoedd i gwrdd ag entrepreneuriaid lleol a chlywed eu hanesion
 - Datblygu a meithrin gallu dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod a manteisio ar eu nodweddion entrepreneuraidd nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod eisoes yn meddu arnynt
 - Ysgogi ein myfyrwyr i ddilyn eu nodau entrepreneuraidd eu hunain ac i ystyried hunangyflogaeth fel rhagolwg realistig.
 
Darganfyddwch fwy am ein heffaith:
Cyngor Gyrfaol
Ansicr ynglÅ·n â pha yrfa fyddai’n gweddu orau i chi? Neu’n cael trafferth gwybod pa gwrs i’w ddilyn i’ch helpu i gael swydd eich breuddwydion? Gall Ůӟó helpu!
Gwnewch ein Cwis Buzz i sefydlu eich math o bersonoliaeth a chael argymhellion personol ar gyfer swyddi, pynciau i’w hastudio a hyd yn oed cynghorion i’ch helpu i weithio’n well.
Neu edrychwch ar ein teclyn Llwybrau Gyrfa sy’n rhoi llawer o wybodaeth ar y gwahanol swyddi sydd ar gael i chi a gwybodaeth ynglŷn â’r pynciau gorau i’w dewis i’ch helpu i gyrraedd yno.