Yn gryno
Os ydych yn rheolwr neu鈥檔 oruchwylydd, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gymhwyso egwyddorion rheoli cadarn i faterion iechyd a diogelwch yn eich t卯m fel rhan o strategaeth rheoli cyflawn. Gan ei fod yn fodiwlaidd o ran natur, gellir teilwra鈥檙 cwrs i gwrdd 芒鈥檆h gofynion busnes unigol.
... rheolwyr o unrhyw sefydliad neu sector sydd angen rheoli'n effeithlon ac effeithiol yn unol 芒 pholisi diogelwch eu sefydliad a deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol.
Bydd y cwrs 3.5 diwrnod (22 awr) hwn yn eich helpu i:
- Gymhwyso egwyddorion ac arferion rheoli sylfaenol i faterion iechyd a diogelwch
- Gosod amcanion iechyd a diogelwch ymarferol a gallu cynllunio a gweithredu cyrsiau i gyflawni鈥檙 amcanion hynny
- Adnabod peryglon sy鈥檔 bresennol yn y gweithle a gallu dethol mesurau rheoli priodol
- Ystyried y peryglon a achosir gan ffactorau dynol
- Sicrhau bod gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth digonol yn cael eu darparu yn y gweithle
- Ymchwilio i bob digwyddiad sy鈥檔 cynnwys anaf neu niwed i benderfynu beth a鈥檜 hachosodd a chymryd camau adfer priodol
- Cyfathrebu鈥檔 effeithiol ynghylch materion iechyd a diogelwch gydag uwch swyddogion, gweithwyr a gweithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol
Cewch eich asesu gan bapur prawf amlddewis atebion byr o 25 cwestiwn a phrosiect ymarferol, ar 么l hynny byddwch yn derbyn tystysgrif Rheoli鈥檔 Ddiogel y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH).
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.