女优阁

Lily holding Rugby ball - IWD
Straeon o Lwyddiant

Rhywbeth arbennig

Mae Lily鈥檔 cael ei dethol ar gyfer Academi鈥檙 Dreigiau yn golygu ei bod hi gam yn nes at wireddu ei breuddwyd o ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol

Sut mae ein Hacademi鈥檙 Dreigiau yn chwalu rhwystrau ym maes rygbi i fenywod

Yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn falch o daflu sbotolau ar gyflawniadau Lily Hawkins, dysgwr ysbrydoledig o Dredegar Newydd sy鈥檔 parhau i fynd o nerth i nerth ym myd rygbi i fenywod.

Mae Lily鈥檔 cael ei dethol ar gyfer Academi鈥檙 Dreigiau yn golygu ei bod hi gam yn nes at wireddu ei breuddwyd o ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol ac mae ei chyflawniadau yn ddiweddar yn dyst i鈥檞 dawn, ei hymroddiad a鈥檌 gwydnwch.

Lily holding Rugby ball - IWD

Datblygu dawn ar y cau ar oddi arno

Wrth i fenywod gynrychioli llai na chwarter o gyfanswm y chwaraewyr rygbi yng Nghymru o hyd, mae Academi鈥檙 Dreigiau yn chwarae r么l hanfodol o ran meithrin athletwyr ifanc.

Daeth Lily i sylw hyfforddwyr yr academi yn wreiddiol pan oedd hi ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Idris Davies. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae hi wedi llwyddo i gydbwyso amserlen hyfforddi llethol gyda鈥檌 hastudiaethau, gan ddangos ymrwymiad eithriadol ar y cau ac oddi arno.

Dan 18 oed ar gyfer twrnamaint y Chwe Gwlad am y ddau dymor diwethaf. Mae hi hefyd yn chwarae yn safle mewnwr dros Gwalia Lightning yng Nghynghrair Celtic Challenge, gan gystadlu ar lefel uwch.

Lily WRU Win

Rhoi yn 么l i鈥檙 g锚m

Y tu hwnt i鈥檞 hymrwymiadau chwarae ei hun, mae Lily yn angerddol am gefnogi鈥檙 genhedlaeth nesaf. Mae hi鈥檔 hyfforddi鈥檙 t卯m merched dan 14 oed yng Nghlwb Rygbi Tredegar Newydd ac mae鈥檔 chwarae rhan weithredol yn Rhaglen Dan Oed y Dyfodol 女优阁, sy鈥檔 hyrwyddo cyfranogiad ar lawr gwlad ac mae鈥檔 annog mwy o ferched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Gan fyfyrio ar ei thaith, dywedodd Lily:

鈥淢ae rygbi bob amser wedi bod yn rhan enfawr o鈥檓 bywyd ac rwy鈥檔 teimlo鈥檔 ffodus iawn i chwarae鈥檙 gamp rwy鈥檔 ei charu ar lefel mor uchel.

Mae rygbi yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru a byddai鈥檔 wych i weld mwy o fenywod a merched nid yn unig yn chwarae鈥檙 g锚m ond hefyd i鈥檙 g锚m fenywod gael y gydnabyddiaeth y mae鈥檔 ei haeddu.鈥

Model r么l i鈥檔 dysgwyr

Rhannodd Scott Matthews, cydlynydd rygbi a hyfforddwr yn Academi Rygbi i Ferched, ei falchder o gyflawniadau Lily:

鈥淔el ei hyfforddwr, ni allwn fod yn fwy balch o Lily a phopeth y mae鈥檔 parhau i鈥檞 gyflawni.

Roedd cynrychioli t卯m Cymru Dan 18 oed flwyddyn yn gynnar pan oedd hi ym Mlwyddyn 11 o hyd yn garreg filltir anhygoel ac mae鈥檔 adlewyrchiad clir o鈥檌 dawn, ei hymroddiad a鈥檌 haeddfedrwydd y tu hwnt i鈥檞 hoedran.

Mae cael ei dethol i chwarae dros d卯m uwch Gwalia Lightning yn ddiweddar yn gyflawniad neilltuol arall ac mae鈥檔 un sy鈥檔 hollol haeddiannol.

Mae Lily yn ymgorffori popeth rydyn ni鈥檔 chwilio amdano yn ein chwaraewyr yr academi sef meddylfryd eithriadol, gwaith paratoi manwl, parodrwydd i gael ei hyfforddi, moeseg weithio a sgil ar lefel uchel. Mae hi鈥檔 arwain ei chymheiriaid trwy ei gweithredoedd ar y cae ac oddi arno, gan ragori yn academaidd wrth ysbrydoli鈥檙 rhai o鈥檌 hamgylch trwy ei safonau a鈥檌 gostyngeiddrwydd.

Rydym yn hynod o falch o Lily, yn yr un modd rydym yn hynod o falch o bob un o鈥檔 dysgwyr a鈥檜 cyflawniadau ac mae hi鈥檔 enghraifft ddisglair o ddiben ein rhaglen.鈥

WRU Lily and tutor Scott

Rygbi i ferched ar i fyny

Mae rygbi i ferched yng Nghymru yn parhau i dyfu wrth i niferoedd sy鈥檔 cymryd rhan mewn rygbi ar lefel llawr gwlad godi鈥檔 sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod heriau鈥檔 parhau o hyd, mae rhaglenni ymroddedig megis Academi鈥檙 Dreigiau a Chynghrair Celtic Challenge yn helpu i greu llwybrau mwy gweledol a modelau r么l cadarnhaol.

Gan ddod o deulu o chwaraewyr rygbi, cafodd Lily ei magu ar ochrau鈥檙 cae rygbi yn cefnogi ei rhieni mewn gemau rygbi lleol. Wedi鈥檌 hysbrydoli gan eu hangerdd, dechreuodd chwarae pan oedd yn 6 oed ac mae wedi parhau i fod yn ymrwymedig ers hynny. Heddiw, mae hi鈥檔 hyfforddi nifer o weithiau bob wythnos, gan gydbwyso sesiynau yn y gampfa, gemau a chyfrifoldebau academaidd gyda lefel syfrdanol o ddisgyblaeth.

Gan astudio ar gyrsiau Safon Uwch mewn Bioleg, Addysg Gorfforol a Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd, mae Lily yn bwriadu parhau 芒鈥檌 datblygiad rygbi wrth symud ymlaen i astudio ar gwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn y dyfodol, mae hi鈥檔 gobeithio cyfuno ei gyrfa chwarae gyda r么l ym maes rheolaeth chwaraeon neu ffitrwydd.

IWD Lily and friend smiling

Rydym wrth ein boddau鈥檔 dathlu cyflawniadau Lily ac edrychwn ymlaen at ddilyn ei llwyddiant parhaus yn ei hastudiaethau ac ar y llwyfan ryngwladol.

Darganfyddwch ein hamrywiaeth eang o gyrsiau chwaraeon!